Rhif y ddeiseb:P-06-1364

Teitl y ddeiseb:Argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru. Rhaid sicrhau bod gan bob oedolyn a phlentyn fynediad at ddeintydd.

Geiriad y ddeiseb:Ym mis Hydref 2022, roedd rhestr aros 26 mis i gofrestru gyda deintydd GIG a chael archwiliad yng Nghymru.
Roedd llythyr agored gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain deintyddion y GIG yn beirniad contractau newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn galw am welliannau a buddsoddiadau y mae mawr eu hangen i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol.
Roedd yn mynegi pryderon ynghylch llawer o ddeintyddion yn gadael y GIG i fynd i bractis preifat.
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-64351984

Dylai pawb gael mynediad at ofal deintyddol, archwiliadau rheolaidd a thriniaeth amserol.

Yn anffodus, mae fy neintydd wedi gadael y GIG i fynd i bractis preifat.  O ganlyniad, rwyf wedi bod yn chwilio am ddeintydd GIG arall ac mae’r un agosaf y gwnes i ei ganfod 79 milltir o fy nghartref, sy’n annerbyniol.

 

 


1.        Y cefndir

Mae anawsterau ynghylch cael mynediad at ofal deintyddol yn y GIG yng Nghymru wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar, gyda nifer o Aelodau o’r Senedd yn disgrifio’r sefyllfa’n 'argyfwng'.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi effeithio’n ddifrifol ar fynediad at wasanaethau deintyddol, gan arwain at ôl-groniad o gleifion sydd angen gofal a thriniaeth ddeintyddol. Fodd bynnag, roedd problemau hirsefydlog o ran mynediad yn bodoli cyn y pandemig.

Yn ystod y ddadl ar ddeintyddiaeth yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mai 2023, cyfeiriodd nifer o Aelodau at ganfyddiadau arolygon a gynhaliwyd ganddynt, gan dynnu sylw at anawsterau ledled Cymru o ran cael gweld deintydd drwy’r GIG, a phrinder y deintyddion sy’n derbyn cleifion GIG newydd. Rhoddwyd sylw i rai o'r materion ynghylch mynediad at ddeintyddiaeth yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn 21 Mehefin 2023 hefyd.

Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ymchwiliad i ddeintyddiaeth a chyhoeddodd ei adroddiad ym mis Chwefror 2023, gydag 16 o argymhellion mewn perthynas â gwasanaethau deintyddiaeth yng Nghymru. Yn ei hymateb i'r adroddiad, gwnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn 11 o’r argymhellion, derbyn tri ohonynt yn rhannol, a gwrthod y ddau arall. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar 21 Mehefin 2023.

Dangosodd y sesiynau tystiolaeth lafar a’r dystiolaeth ysgrifenedig nad oes darlun clir ynghylch faint o bobl sy'n aros i weld deintydd gyda’r GIG ar hyn o bryd na faint o bobl sydd wedi methu mynd ar restr aros i weld deintydd gyda’r GIG gan nad oes rhestr aros ganolog. Nid oes data yn cael eu cadw'n ganolog ychwaith ar nifer y cleifion sy'n cael eu trin yn breifat. Mae’r sefyllfa yn fwy cymhleth fyth gan fod modd i bobl gofrestru i fod ar fwy nag un rhestr aros.

Galwodd adroddiad y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i ystyried un rhestr aros ganolog ar gyfer Cymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau â Gofal Iechyd Digidol Cymru i bennu cwmpas cynllun ar gyfer rhestr aros ddeintyddol Cymru gyfan ac mae ymrwymiad i gyflawni’r ateb hwnnw yn y flwyddyn ariannol hon.

Mae adroddiad y Pwyllgor ac Aelodau yn y Senedd hefyd wedi cyfeirio at 'system dair haen' mewn deintyddiaeth yng Nghymru. Un haen yw'r bobl sy'n gallu cael mynediad at ddeintydd GIG, a haen arall yw'r bobl sy'n talu i fynd yn breifat. Y drydedd haen yw'r bobl sy’n methu gweld deintydd drwy’r GIG ac sy’n methu fforddio talu'n breifat.

Cytundebau deintyddol a chyllid deintyddol

Ers mis Ebrill 2022, mae practisau GIG yn gallu dewis bod yn rhan o raglen diwygio contract deintyddiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n canolbwyntio ar atal ac ar ofal yn seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn golygu newid oddi wrth gynnal archwiliadau bob chwe mis ar gyfer pob claf. Y nod yw rhyddhau capasiti i gynnig apwyntiadau i gleifion newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £2 filiwn ychwanegol bob blwyddyn ar gyfer gwella mynediad at wasanaethau deintyddol ledled Cymru.

Fodd bynnag, honnodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) ym mis Ionawr 2023 fod contractau GIG newydd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys gofyniad i weld cleifion newydd yn digwydd ar draul y cleifion sydd eisoes wedi’u cofrestru gyda phractisau. Anfonodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain lythyr agored at Lywodraeth Cymru yn rhybuddio y bydd cytundebau newydd yn gorfodi practisau i adael y GIG, ac mae wedi rhybuddio hefyd y gallai deintyddiaeth y GIG ddiflannu yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar y broses a fydd yn arwain at drafodaeth ffurfiol ar gontract deintyddol newydd.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar a yw’r lefelau cyllid presennol yn ddigonol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o gleifion. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy ddweud unwaith y bydd rhestr aros ganolog ar waith, bydd yn gallu cadarnhau faint o bobl sy'n aros am ofal deintyddol gyda’r GIG ac asesu’r lefelau ariannu sydd eu hangen.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor ar 15 Hydref 2023 yn amlygu bod mwyafrif y deintyddion yn ymarferwyr annibynnol, hunangyflogedig sy’n gallu dewis contract i neilltuo cyfran o’u hamser ar gyfer darparu triniaeth GIG ar ran Byrddau Iechyd. O ganlyniad, gallent ddarparu gofal GIG yn unig, gweithio y tu allan i'r GIG yn gyfan gwbl neu, fel sy'n digwydd yn aml, ddarparu cymysgedd o ofal deintyddol gyda’r GIG a gofal deintyddol preifat.

 

Dywedir bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Byrddau Iechyd i fynd i’r afael â bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir drwy eu cynlluniau gweithredol. Mae’r Gweinidog yn cydnabod nad yw mynediad at ddeintyddiaeth fel yr hoffai Llywodraeth Cymru iddo fod ac y bydd “newidiadau sylweddol ac ymarferol yn cymryd amser, a bydd angen buddsoddi cyllid mewn modd sy’n anodd yn yr hinsawdd ariannol bresennol”.

O ran terfynu contractau deintyddol y GIG, dywed y Gweinidog fod 413 o gontractau deintyddol ar waith ledled Cymru ar ddechrau mis Ebrill 2022, a bod 26 o’r contractau hynny wedi cael eu terfynu am amrywiaeth o resymau megis ymddeoliad, gwerthu’r practis, a phractisau’n dewis symud i ddarpariaeth breifat yn unig. Yn y mwyafrif o achosion lle mae contractau wedi cael eu hamrywio neu eu terfynu, mae Byrddau Iechyd eisoes wedi ail-gomisiynu gwasanaethau newydd neu maent wrthi’n gwneud hynny. Mae’r Gweinidog yn nodi bod hyn yn “dangos bod digon o barodrwydd i ymgymryd â chontractau’r GIG”. Amlygir hefyd y ffaith, pan fydd deintydd yn penderfynu lleihau neu derfynu ei ymrwymiad i’r GIG, fod y cyllid ar gyfer y ddarpariaeth a gollir yn aros gyda’r Bwrdd Iechyd fel y gall y Bwrdd adfer lefel y gwasanaethau deintyddol a gynigir gan y GIG.

Dywedir bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Byrddau Iechyd i sicrhau bod mesurau'n cael eu cynnwys yn y broses o adfer gwasanaethau i sicrhau bod practisau deintyddol yn gweld cleifion newydd. Mae’r Gweinidog yn nodi bod bron 246,000 o gleifion newydd wedi cael mynediad at ddeintydd GIG ledled Cymru ers mis Ebrill 2022. Nodir bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau deintyddol i gynyddu mynediad ar gyfer cleifion newydd, ond bod oedi’n bosibl wrth i apwyntiadau ar gyfer gofal arferol ddod ar gael mewn rhai ardaloedd lleol.

Gan fod y gweithlu yn cael ei ystyried rhan allweddol o wella mynediad at ofal deintyddol yn y GIG, dywedir bod Llywodraeth Cymru yn “gweithio i nodi a chreu cyfleoedd arloesol i ehangu sgiliau a gwella llwybrau gyrfa ym maes deintyddiaeth er mwyn sicrhau bod y cyfle i weithio yng Nghymru yn fwy deniadol”. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ganolbwyntio ar recriwtio a chadw’r gweithlu deintyddol yng Nghymru. Cafodd cynllun ei lansio’n ddiweddar i gymell hyfforddeion deintyddol mewn practisau deintyddol ledled Cymru wledig, yn hytrach nag ardaloedd trefol mwy poblogaidd. Y nod yw helpu i gynyddu mynediad at ofal y GIG i bobl leol yng nghefn gwlad Cymru.

Mae cymysgedd sgiliau (h.y. gwneud defnydd o sgiliau'r tîm deintyddol cyfan) hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol yn y ddarpariaeth o ofal deintyddol yn y GIG. Mae therapyddion deintyddol, hylenwyr a thechnegwyr deintyddol clinigol wedi bod â’r gallu i agor a chau cyrsiau triniaeth GIG ers mis Ebrill 2023, sy’n cynyddu capasiti’r gweithlu presennol.

Mae’r Gweinidog yn cynghori y dylai pobl sy’n ceisio mynediad at wasanaethau deintyddol gyda’r GIG gysylltu â’u Bwrdd Iechyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fynediad yn eu hardal leol, gyda’r bwriad o ymuno â rhestr aros practis. Bydd y Bwrdd Iechyd yn gallu darparu manylion am lefel a lleoliad presennol y gwasanaethau deintyddol GIG yn yr ardal. Byddant hefyd yn gallu darparu manylion am y sesiynau mynediad ac argaeledd y driniaeth frys y mae'r Bwrdd Iechyd yn eu darparu i'r trigolion hynny nad ydynt wedi’u cofrestru gyda phractis ar hyn o bryd. Fel mesur dros dro, mae’n bosibl y gellir trefnu i blant gael eu gweld gan y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, yn enwedig os oes pryderon am iechyd ceg plentyn neu faint o amser sydd wedi mynd heibio ers ei archwiliad deintyddol diwethaf.

 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.